P-03-295 Gwasanaethau Niwroadsefydlu Paediatrig

Geiriad y ddeiseb

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gydnabod ac i ddarparu gwasanaethau ar gyfer adsefydlu plant sydd wedi cael anafiadau i’r ymennydd. Ar hyn o bryd, nid oes cyfleuster yng Nghymru i ddarparu’r gwasanaeth hanfodol hwn. Er gwaetha’r ffaith bod ysbyty penodol ar gyfer plant yn cael ei adeiladu yng Nghaerdydd, nid oes darpariaeth o hyd wedi’i chynnwys yng nghynllun yr ysbyty hwnnw.

 

Linc i’r ddeiseb: http://www.cynulliadcymru.org/gethome/e-petitions-old/admissible-pet/p-03-295.htm

Cynigwyd gan: Kyle’s Goal

Nifer y llofnodion: Cynigwyd y ddeiseb gan Kyle’s Goal. Casglwyd 9,128 o lofnodion gan ddeiseb gysylltiedig.

Y wybodaeth ddiweddaraf: Cafwyd gohebiaeth gan y cyn Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.